Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Hydref 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Sam Rowlands (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn ei rybudd fod y cyngor yn wynebu methdaliad oni bai bod gwasanaethau a swyddi yn cael eu torri?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol
(60 munud)
NDM8379 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2023.
6 Dadl ar ddeiseb P-06-1345 - Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai
(30 munud)
NDM8380 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai’ a gasglodd 10,580 o lofnodion.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digartrefedd
(60 munud)
NDM8384 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru.
2. Yn credu na fydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
3. Yn nodi gyda phryder fod nifer yr unigolion sy'n cysgu ar y stryd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 2020.
4. Yn cydnabod nad yw saith awdurdod lleol yn cofnodi gwybodaeth am farwolaethau digartrefedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i'r Combined Homelessness and Information Network, i sicrhau bod digon o ddata ar gael i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru a'i effaith.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwellliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r diwygio dewr, uchelgeisiol a radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
2. Yn nodi cyfraniad hanfodol y rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd wrth baratoi’r Papur Gwyn a barn Prif Weithredwr Crisis bod yr uchelgais a welir ynddo yn arwain y byd.
3. Yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn helpu i lunio’r dull o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru yn y dyfodol.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8383 Rhianon Passmore (Islwyn)
Chwalu'r nenfwd dosbarth - adeiladu Cymru egalitaraidd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023